 |
Planed
Plant, S4C a dwyieithrwydd corfforaethol
|
"Mae dwyieithogi'r
diwylliant Cymraeg yn gyfystyr â'i danseilio
a'i ddirymu, ac yn troi'r Gymraeg yn gyfrwng di-werth.
Mae'r sawl sy'n gwthio dwyieithrwydd corfforaethol
i mewn i'r cylchoedd diwylliannol Cymraeg hynny
sy'n fydoedd cwbl Gymraeg ac yn rhoi cynhaliaeth
i werthoedd y diwylliant, yn gweithredu'n gwbl anghyfrifol
a rhaid eu gwrthwynebu." (Ieuan Wyn) |
|
|
Yn groes i'r arferiad, pan gafwyd cerddi Cymraeg yn unig
gan Myrddin ap Dafydd a Meirion Mcintyre, comisiynwyd Bardd
Plant Cymraeg eleni i lunio cerdd Saesneg yn ogystal ag un
Gymraeg.
A phwy sydd ynghlwm wrth y datblygiad hwn gyda Chyngor Llyfrau
Cymru a'r Urdd, ac yn derbyn cyfrifoldeb am ymddangosiad y
gerdd ac yn hyrwyddo'r fenter? Wel, Planed Plant, - ac S4C,
awdurdod a sianel sydd i fod drwy ddeddf i hyrwyddo'r Gymraeg
yn unig.
Anfonwyd y gerdd Saesneg, ar ffurf poster yn nodi enwau noddwyr,
i ysgolion Cymru. Dyma enghraifft amlwg o S4C yn camddefnyddio'i
henw, ei safle a'i dylanwad fel sianel i hyrwyddo'r Saesneg
er ei bod wedi ei sefydlu gyda'r bwriad o gynnal gwasanaeth
cyhoeddus Cymraeg wyneb yn wyneb â dylanwad gormesol
yr iaith a'r diwylliant Saesneg, ac mai'r rheswm dros frwydro
amdani oedd er mwyn ceisio gwrthweithio effeithiau niweidiol
y grymusterau sy'n Seisnigo Cymru drwy gael sianel a fyddai'n
hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. |
 |
Mae dwyieithogi'r diwylliant Cymraeg yn gyfystyr
â'i danseilio a'i ddirymu, ac yn troi'r Gymraeg yn gyfrwng
di-werth. Mae'r sawl sy'n gwthio dwyieithrwydd corfforaethol
i mewn i'r cylchoedd diwylliannol Cymraeg hynny sy'n fydoedd
cwbl Gymraeg ac yn rhoi cynhaliaeth i werthoedd y diwylliant,
yn gweithredu'n gwbl anghyfrifol a rhaid eu gwrthwynebu. Mae
marwolaeth y diwylliant Cymraeg, a marwolaeth y Gymraeg yn
sgil hynny, ymhlyg yn y datblygiad.
|
|
|
|