Y Faner Newydd

Dydd Sul, 19 Mai 2013

Amrywiol

Portread o'r Parch D. Ben Rees

Ebost Argraffu
Y Parch D. Ben Rees

Pan ddaeth adolygiad drwy'r post gan y Parch D. Ben Rees fe sylweddolais fod cyfle i mi dalu teyrnged i Gymro brwd, Sosialydd tanbaid a dyngarwr ymarferol Un o Abercarfan, Llanddewi yw D. Ben Rees ac mae stamp Radicaliaeth Ceredigion ar ei bersonoliaeth hyd heddiw.

Hiwmor Garnon: 'Fe ddaw â haf i’r stafell'

Ebost Argraffu
Garnon Davies

Mae yna rai pobol sy'n dwyn llawenydd i unrhyw gwmni a dyna Garnon i chi. Fe ddywedodd S. B. Jones am rywun - ‘Fe ddaw â haf i'r stafell'- a dyw hi ddim wedi bod yn aeaf yn Ffostrasol ers blynyddoedd!

"Rhywbeth mwy na sgrap": Wynmor Owen

Ebost Argraffu
Rhywbeth mwy na sgrap

Dros y Pasg eleni bu'r drydedd arddangosfa o'm gwaith celf yn Oriel y Sesiwn yn Nhrefdraeth. Yma rwy'n byw ac o'r parthau yma mae fy ysbrydoliaeth a'r defnydd crai i'm gwaith ... felly rwy'n teimlo mai yn ei gynefin y mae arddangos y gwaith.

Clefyd peryclaf cymdeithasau dynol

Ebost Argraffu
Napoleon - dyn diwreiddiedig

Napoleon, Lenin, Stalin, Trotsky, Hitler, Franco: dynion fu'n gyfrifol am ladd, dinistrio a difa ar raddfa y tu hwnt i'r dychymyg, a'u parodrwydd i aberthu miliynau ar allor eu huchelgais gwyrdroëdig. Rhai o gymeriadau gwaethaf hanes: a phob un ohonynt wedi'i eni'n aelod o leiafrif.

‘Cael yn ôl’: Portread o Jenny Henn

Ebost Argraffu
Jenny Henn

Ces i fy ngeni yn Cwm, blaenau'r cymoedd, mewn eira mawr a rhew - fel Pwsi Meri Mew, a dyfalwch beth? Rwy'n hoff iawn o gathod ac mae dwy a hanner gyda ni, sef Monty Don a Leo a Toffi bach o ddrws nesa sy'n treulio hanner ei hamser gyda ni.