Pobl heb hanes cynnar fuon ni'r Cymry a'r drws oedd yn agor ar ein gorffennol pell wedi'i gau. Er hyn rywle yn nyfnderoedd ein bod roedd i ni, fel y tystia ein llenyddiaeth, gof amdanom ni'r Cymry fel gwir frodorion Ynys Prydain a fu unwaith yn meddiannu Prydain oll cyn ein hysbeilio gan eraill o'n tai a'n tiroedd gan adael ein gwaed ar y gwellt a'n haelwydydd yn oer ac yn adfail.

