"Dystawa cannoedd yn ei wyddfod . . . a theimla lluaws awydd i daly eu gwarogaeth iddo fel pe bai yn fod uwch-raddol. Tybiant nad oes ei gyffelyb; ac nid oes ychwaith. Saif ar ei ben ei hun yn hollol fel Nodwydd Cleopatra, yn llawn o hynodrwydd".
Na, nid disgrifiad o Hywel Teifi, ond o'i enau ef y clywais y dyfyniad hwn pan draddododd ddarlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ym 1999. Disgrifiad o Llew Llwyfo, gwrthrych ei ddarlith ydyw, gan un a gydoesai â'r cymeriad llachar hwnnw, ac a'i edmygai'n fawr. Yr oedd dewis go helaeth o ‘gymeriadau' o'r fath yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd y Cymry Cymraeg yn llawer mwy o deulu nag ydyw erbyn hyn, ond wrth i'r teulu grebachu, crebachu hefyd yn gyfamserol a wnaeth nifer y ‘cymeriadau' o'i fewn. Ym marwolaeth Hywel collwyd yr amlycaf yn eu plith.
Y mae llawer o deyrngedau a dalwyd iddo wedi dangos nad un hawdd i'w barselu a'i labelu'n dwt ydoedd. Gellid traethu'n helaeth amdano o dan amrywiol benawdau – ysgolhaig, hanesydd, beirniad llenyddol, darlithydd huawdl, darlledwr, ymgyrchwr diflino, ac yn y blaen, ac yn y blaen – ond yn disgleirio drwy'r gweithgarwch i gyd, y mae'r ‘cymeriad' arwrol yma y rhoddwyd iddo ddawn gyfathrebu ddihafal, a thrwydded i ddweud pethau ar lwyfan gyhoeddus na fentrai meidrolion llai eu hyngan.
Ymserchodd yn llwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, neu ‘Oes Fictoria' fel y gelwir hi er cyfleustra. Wrth ymdroi yng nghwmni cymeriadau megis Llew Llwyfo, Talhaiarn, Creuddynfab, Ceiriog ac eraill o blith gogoneddus dyrfa'r cyfnod hwnnw, etifeddodd lawer o'u hysbryd, eu dycnwch a'u dyfalbarhad. Fel yn eu hachos hwy, ac wrth edrych ar ffrwyth ei lafur ar y silff lyfrau, ceir y teimlad fod mwy na phedair awr ar hugain yn niwrnod Hywel. Nac anghofier chwaith am ei gyfraniad i'w bentref, yn ddiwylliannol ac ysbrydol, ac ni chollai gyfle un amser i drafod yn frwdfrydig hynt a helynt ei Arsenal hoff. Yr oedd rhywbeth ar y gweill ganddo bob amser, a chynlluniau ar gyfer rhyw weithgarwch pellach i'r dyfodol.
Ef yn ddiau oedd prif ddehonglydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w gyd-Gymry Cymraeg. Chwalodd y syniad a oedd gan lawer ohonom amdani fel canrif drymaidd, lychlyd, yn arogleuo o gamffor, a'i thrawsnewid o flaen ein llygaid i fod yn un o'r canrifoedd pwysicaf yn ein hanes, a chanrif y mae dylanwad rhai o'i digwyddiadau yn drwm arnom o hyd.
Ond yn ogystal â cholli cymeriad mawr y mae ugeiniau lawer ohonom wedi colli cyfaill triw hefyd. Cyfaill a allai fod yn agos ac yn gydymdeimladol iawn. Cyfaill difyr ei sgwrs, parod ei ateb, a'i ddigrifwch yn byrlymu bob amser. Y tro diwethaf imi ei glywed yn annerch yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol – bu yno ar sawl gwahanol amgylchiad – soniodd yn ddiystyrllyd fel arfer am y dechnoleg fodern nad oedd ganddo fawr i'w ddweud wrthi, ac am weithgarwch mawr y Llyfrgell y dyddiau hyn, sef digideiddio. Digideiddio llyfrau, digideiddio papurau a chylchgronau, ac yn y blaen. ‘Diawch', meddai Hywel, ‘dwi'n petruso rhoi 'nhroed y tu mewn i'r Llyfrgell y dyddie hyn, rhag ofan y bydda i'n mynd oddi yma wedi fy nigideiddio'.
Yn ei ragair byr i'w gerdd Anatiomaros, un o ddoethion chwedlonol ei lwyth Celtaidd ar y Cyfandir gynt, dywed T. Gwynn Jones wrthym mai enw Brythonig yw hwnnw, ac na ddaeth i'r Gymraeg fel enw priod. Eithr daeth ei elfennau, sef ‘enaid' a ‘mawr ', ac ystyr yr enw felly yw ‘Eneidfawr '. Ni haeddodd neb yr enw hwnnw'n fwy na Hywel, ac er dirfawr golled i'w deulu, i'w gyfeillion ac i Gymru, ‘Anatiomaros aeth at y meirwon'.
Diolch amdano ac am gael ei adnabod.
Y Faner Newydd 51, Gwanwyn 2010

