Y Faner Newydd

Dydd Sul, 26 Mai 2013

Cymru, Yemen, Somalia a'r Ymerodraeth Brydeinig

Ebost Argraffu
Lleoliad Yemen a Somalia

Mae Yemen heddiw yn talu pris chwerw am y drwg a wnaed gan yr Ymerodraeth Brydeinig a rwystrodd ddatblygiad naturiol llwythi bychan De Arabia. Yn y 19eg ganrif roedd Prydain a'i bryd ar sefydlu ei phresenoldeb yn y Dwyrain Canol. Y cam cyntaf oedd i Lywodraeth Prydain feddiannu Aden yn 1839.

Pan agorwyd Camlas Suez yn 1869 aeth y gystadleuaeth rhwng Prydain a'r Ymerodraeth Otomanaidd yn fwy yn yr ardal. Ymestynnodd yr Otomaniaid eu grym gan sefydlu yn Sanaa a Ta'izz a Phrydain yn ymestyn i'r gogledd a'r dwyrain o Aden. Roedd De Yemen yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac ymfudodd dynion o'r Yemen wledig i borthladd Aden lle medren nhw gael gwaith ar longau oedd yn teithio i Brydain.

Cymru a'r Yemen

Yn ystod twf y meysydd glo yn Ne Cymru fe ddaeth llawer o bobl o Yemen i fyw yng Nghaerdydd, Y Barri, Abertawe a Chasnewydd. Roedd y dynion hyn yn gweithio fel tanwyr ar y llongau ager neu fel labrwyr yn y gwaith glo.

Darlun gan blentyn a ffodd o'r rhyfel cartref i Gaerdydd yn darlunio anrhaith rhyfel yn ei wlad

Cynyddodd nifer y bobl Yemeni yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan addawodd Churchill y byddai holl drigolion yr Ymerodraeth Brydeinig a fyddai'n ymuno â llongau rhyfel Prydain yn cael aros a gweithio ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Sefydlwyd y mosg cyntaf ym Mhrydain yng Nghaerdydd yn 2 Stryd Glynrhondda yn 1860, ac y mae'n dal yno dan yr enw Canolfan Islamaidd a Diwylliannol Al-Manar.

Mae llawer o ddywediadau am Gaerdydd yn iaith Arabeg Yemen. Un ohonyn nhw yw am bobl yn gwario eu harian yn afradlon a'r dywediad yn Arabeg Yemen yw ‘Weithiodd e ddim yn galed amdano yng Nghaerdydd'. Yn ôl Sulaiman Ghanem o Lysgenhadaeth Yemen byddai ei dad yn dweud wrtho pan oedd e'n blentyn ac wedi mynd yn i feddwl ei fod e'n deall y cwbl, ‘Paid bod felna, dwyt ti ddim yn dod o Gaerdydd'.

Cymru a Somalia

Yn yr un cyfnod daeth llawer o Somaliaid i Gymru ac mae hanes y Somaliaid yng Nghasnewydd yn mynd nôl dros gan mlynedd. Tua diwedd y chwedegau fe ddechreuodd nifer o forwyr Somali ddod â’u teuluoedd i Gymru.

Yna yn gynnar yn yr wythdegau fe ddirywiodd y sefyllfa wleidyddol yn Somalia. Rhannwyd y wlad pan ddechreuodd llywodraeth Siyad Barre ddangos rhagfarn yn erbyn pobl o ogledd y wlad - gan gael gwared ar swyddogion a gwrthod addysg i fyfyrwyr o’r gogledd. Yn y diwedd aeth hi’n rhyfel cartref chwerw gyda’r llywodraeth yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn poblogaeth gogledd Somalia.

Gorfodwyd llawer o bobl i ffoi o’u pentrefi a diflannodd llawer o bobl - poenydiwyd a lladdwyd llawer eraill. Ffodd llawer iawn o Somaliaid ac mae’r mwyafrif o boblogaeth Somali a symudodd i Gaerdydd yn ystod y saith neu’r wyth mlynedd ddiwethaf wedi bod yn ffoaduriaid.

Milwyr Prydain yn Aden

Yn y chwedegau bu milwyr Prydain yn ymladd rhyfel brwnt yn Yemen. Creodd y cyfryngau ddarlun rhamantaidd o’r ymladd yma rhwng yr SAS yn eu jîpiau pinc (oedd yn ffugliw perffaith ar gyfer ymdoddi yn y tywod) a thrigolion lleol a alwyd yn ‘Fleiddiaid Coch Radfan’ (galwyd hwy hyn oherwydd eu dewrder anhygoel).

Yn 1962 yng ngogledd Yemen dechreuodd MI6 a’r SAS eu rhyfel cudd brwnt gan ddarparu arfau, arian a chymorth milwrol yn erbyn lluoedd gweriniaethol a gefnogwyd gan yr Aifft. Bu Israel drwy gyfrwng Mossad a Llywodraeth Saudi Arabia hefyd yn cydweithio gyda Llywodraeth Prydain yn y rhyfel brwnt hwn. Bu tua 200,000 farw yn y rhyfel yma.

Penderfynodd Llywodraeth Prydain na fyddai Prydain a’r SAS yn cymryd rhan yn swyddogol yn y rhyfel, ond rhoddodd y Llywodraeth ei bendith ar bob math o ymgyrchoedd a drefnwyd gan yr SAS a lle bu’r SAS ei hun yn cymryd rhan. Gwaith MI6 oedd caglu gwybodaeth a darganfod lleoliad lluoedd y gelyn.

O 1964-1967 bu Prydain yn ymladd y rhai a fynnai gael rhyddid i Aden. Dyma lle gwelwyd Prydain yn defnyddio’r SAS ar gyfer pob math o ymladd brwnt Un dull oedd gwisgo dynion SAS mewn dillad Arabaidd a’u danfon allan i ladd brodorion gwrthwynebus. Dechreuodd byddin Prydain ddefnyddio tactegau fel hyn yn Kenya lle galwyd y llofruddio yn ‘Pseudo Operations’. Yn Aden yr enw ar y llofruddio oedd ‘Keeni-Meeni Operations’.

Milwyr Prydain yn Yemen

Mae Anthony Kemp yn ei lyfr am yr SAS yn dweud 'fe fyddai grwp bychan o ddynion wedi eu gwisgo fel Arabiaid yn mynd allan i’r dre yn edrych am dargedau. Os bydden nhw’n cymryd pobl yn fyw ac yna eu croesholi roedd hynny’n fonws, yn ei hanfod y bwriad oedd 'to meet terrorism with terrorism’’. Dull arall o godi braw ar y boblogaeth a cheisio eu cadw rhag gwrthryfela yn erbyn Prydain oedd bomio pentrefi a chnydau gan wneud miloedd o bobl yn ffoaduriaid digartref.

Defnyddiwyd rhyfel seicolegol ac awyrennau i reoli’r llwythi drwy eu dychryn. Galwyd hyn yn 'Air Power Policing’. Pe bai llwyth neu bentref yn gwrthryfela yn erbyn grym Prydain bydden nhw’n gollwng pamffledi o’r awyr yn eu rhybuddio y bydden nhw’n cael eu bomio. Meddai Richard Lingham yn ei lyfr 'Rhyfel Un Milwr ’ “os na fydden nhw’n ufuddhau fe fydden nhw’n cael eu bomio. Bydden nhw’n cael eu gorchymyn i symud pawb a’u hanifeiliaid allan o’r pentref ac yna ar yr union amser byddai’r pentre’n cael ei fomio nes bod dim ar ôl ohono".

Darganfuwyd fod hyn yn ffordd cyflym, rhad a chost effeithiol o reoli nifer fawr o bobl neu bobl wedi’u gwasgaru dros dir anhygyrch”.

Mewn erthygl yn Time ceir disgrifiad o un ymosodiad - 'gollyngodd 4 awyren fomio 93 bom 500 pwys ar Danaba, ac yna daeth awyrennau Venom ac arllwys 72 roced i’r pentref ac er mwyn cael yr effaith mwyaf gwnaed y cyfan dros gyfnod o chwe awr ’. Ym Mehefin 1967 bu gwrthryfel pan ymosodwyd ar gonfoi o filwyr Prydain gan heddlu Yemen (oedd wedi eu hyfforddi gan Brydain). Lladdwyd 8 milwr yn y gwrthryfel.

Canlyniad hyn oedd dialedd gan filwyr Prydain dan arweiniad Lieutenant Colonel 'Mad’ Mitch. Bu cyflafan waedlyd a ddisgrifiwyd gan y Commander fel 'like shooting grouse; a brace here and a brace there”. Mewn ymchwiliad swyddogol Prydeinig yn 1971 darganfuwyd bod Prydain wedi poenydio carcharorion. Gwrthodwyd caniatad i’r Groes Goch ac Amnest Rhyngwladol i gyfweld carcharorion yn un o’r carcharau gwaethaf.

Heddiw

Brodorion bryniau Yemen

Yemen yw'r wlad dlotaf yn byd Arabaidd, ac mae'n drist gweld Prydain ac America yn dilyn polisiau sy'n mynd i achosi lladd llawer iawn o bobl ddiniwed yn Yemen. Eisoes mae Llywodraeth Prydain wedi addo helpu Yemen i ddatblygu uned gwrthderfysgaeth (a fydd yn defnyddio tactegau rhyfel brwnt megis bomio a llofruddio mae'n sicr), ac mae America wedi addo dyblu'r £45 miliwn o gymorth milwrol.

Ofnwn yn fawr nad yw Llywodraeth Prydain wedi dysgu dim a'i bod yn credu mai bomio pentrefi gan ladd pobl ddiniwed a danfon yr SAS i lofruddio'n gudd yw'r ateb o hyd.

Gallwn ymfalchïo fod brodorion o Yemen a Somalia wedi dod i fyw i Gymru, gwlad nad yw wedi coloneiddio neb, a'u bod wedi cael croeso yma. Ond ni fedrwn fod yn hapus ynglŷn â'r jingoistiaeth sydd ar led ym Mhrydain ar y funud sy'n dyrchafu bomio pobl ddiniwed ac ymladd brwnt mewn gwledydd anghysbell fel peth rhamantus a chyfiawn.

Dyma eiriau un pennaeth Brythonig wrth ddisgrifio creulondeb a thrachwant yr Ymerodraeth Rufeinig, geiriau a ddyfynwyd gan Tacitus, ‘lle maen nhw'n creu anrhaith maen nhw'n ei alw'n heddwch'. Geiriau addas iawn i ddisgrifio'r hyn mae Llywodraeth Prydain ac America yn ei wneud yn y Dwyrain Canol heddiw.

dial o'r anialwch

Daw dial o'r anialwch - yfory
Nes adferir tegwch
I atal llid plant y llwch
Ni all lladd ennill heddwch.

Dic Jones

Faner Newydd 51, Gwanwyn 2010