deunydd asp

Mae Tudalennau Gweinydd Gweithredol (Active Server Pages) yn cyflwyno elfen ddeinamig i'ch gwefan. Mae'r deunyddiau sydd ar y dudalen hon yn defnyddio asp i gyflawni nifer o bethau gwahanol. Maen nhw'n gweithio fan hyn gan fod gweinydd gwefan y Faner Newydd wedi galluogi sgriptiau asp. Os ydych am eu defnyddio i ddatblygu eich gwefan rhaid i chi sicrhau bod modd defnyddio asp ar eich gwefan. Os nad ydych yn gwybod, gofynnwch i'ch gweinydd neu triwch rhai o'r sgriptiau sydd ar y dudalen hon. Bydd rhai cynhalwyr gwefan yn codi tâl am alluogi sgriptiau asp. Nid yw'r Faner Newydd yn gyfrifol am unrhyw niwed sy'n digwydd i'ch cyfrifiadur neu unrhyw gyfrifiadur arall o ganlyniad i lwytho a defnyddio'r ffeiliau hyn.

Cyfarwyddiadau
Enghraifft neu fanylion
Ffeliau yn y ffolder zip
Trwydded ac awdur
Llwytho lawr
Cliciwch ar y ddolen prosesu.zip a'i harbed ar eich cyfrifiadur. Dadbaciwch y ffolder hwn i fan cyfleus ar eich cyfrifiadur. Dilynwch y cyfarwyddiadau manwl sydd yn y ffeiliau ffurflen.txt a prosesu.txt.
Ffurflen syml i gasglu gwybodaeth wrth ddefnyddiwr. Mae'n defnyddio asp i gasglu gwybodaeth, ei anfon atoch chi mewn ebost, ac ailgyfeirio'r defnyddiwr i dudalen o'ch dewis. Mae'r enghraifft sydd fan hyn yn dod â chi nôl i'r dudalen hon, ac yn anfon ebost aton ni! Cliciwch y gair ffurflen i weld hon ar waith.
anfon.htm
prosesu
ffurflen.asp
ffurflen.txt

prosesu.txt

4 ffeil
awdur: y Faner Newydd (sgript gyffredin).
pris: rhad ac am ddim.
Cliciwch ar y ddolen ymweld.zip a'i harbed ar eich cyfrifiadur. Dadbaciwch y ffolder hwn i fan cyfleus ar eich cyfrifiadur. Dilynwch y cyfarwyddiadau manwl sydd yn y ffeil ymweld.txt.
Sgript syml sy'n dangos beth all asp wneud. Mae'n gosod "cookie" ar gyfrifiadur y defnyddiwr ac yn newid y cyfarchiad bob tro mae'n ymweld â'r dudalen. Yn yr achos hwn mae'n dweud wrth y person sawl gwaith mae wedi ymweld â'r dudalen. Cliciwch i weld hwn. Darllenwch y neges groeso, caewch y ffenest, ac yna clicio arni eto. Sgript heb lawer o bwrpas efallai, ond mae'n cyfleu rhai o egwyddorion asp!
ymweld.txt

1 ffeil
awdur: sgript gyffredin.
pris: rhad ac am ddim (ar gael ym mhob man).
Llwythwch ffeiliau Cymraeg a chyfarwyddiadau ar sut i'w defnyddio i'ch cyfrifiadur (chwilasp.zip).
Llwythwch y meddalwedd ar gyfer chwilio eich gwefan i'ch cyfrifiadur (chwiliadaur).
Llwythwch gyfarwyddiadau manwl ar sut i'w ddefnyddio i'ch cyfrifiadur (llawlyfr).
Chwiliadur asp: peiriant sy'n defnyddio asp i chwilio drwy'r tudalennau ar eich gwefan. Mae'n rhad ac am ddim i ddefnyddio ar wefannau hyd at 50 tudalen. Cliciwch fan hyn i weld sut allai hwn weithio ar eich safle chi. Rhaid bod eich gweinydd yn caniatáu sgriptiau asp cyn medru defnyddio'r chwiliadur hwn ar eich gwefan. Dilynwch y cyfarwyddiadau manwl sydd yn y llawlyfr. Mae ffeiliau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg yn y ffolder chwilasp.zip.
  chwiliadur
.asp
search_temp
late.html
chwilasp.txt


3 ffeil
yn y ffolder chwilasp.zip
awdur: wrensoft
pris: fersiwn am ddim sy'n chwilio hyd at 50 tudalen. Fersiwn hwn ddim yn chwilio ffeiliau .pdf. Manylion pellach wrth wrensoft.
Cliciwch ar y ddolen cyfrif.zip a'i harbed ar eich cyfrifiadur. Dadbaciwch y ffolder hwn i fan cyfleus ar eich cyfrifiadur. Dilynwch y cyfarwyddiadau manwl sydd yn y ffeil darllen.txt.
Cyfieithiad o ddyfais syml sy'n defnyddio rhifau graffeg i gyfri nifer o ymwelwyr i dudalen arbennig. Mae'n cynnwys dolen gydnabod i wefan yr awdur. O symud y ddolen ry'ch chi'n torri'r rheolau yn y drwydded. Cliciwch i weld hwn ar waith.

ffolder "delweddau
_cyfri"
darllen.txt
cyfrif.txt
default.asp

4 ffeil

awdur: web wiz
pris: am ddim ond i chi gynnwys dolen. Manylion pellach wrth web wiz.

sustem ebost Gymraeg